Newyddion
26.04.13
PWYSIG:
Cofiwch ddychwelyd y Ffurflen Gofrestru yn nodi Dewis Rhieni o Ysgol Gynradd ar gyfer Disgyblion Meithrin a Derbyn i’r ysgol ar fyrder.
Manylion a Ffurflen i’w cael ar wefan conwy - cliciwch yma
04.03.13
Cystadleuaeth Fformiwla 1
Llongyfarchiadau i ‘Team BG’ ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Fformiwla 1 yn Venue Cymru. Diolch i Lara, Tom, Cieran a Sion am gynrychioli’r ysgol yn y gystadleuaeth. Ni allwn ganmol eu gwaith a’u hymdrech ddigon. Dyfarnwyd tarian iddynt am y tîm gorau ar eu blwyddyn gyntaf yn y gystadleuaeth. Diolch i Mr Owen am ei holl waith gyda’r disgyblion, ac i bawb fu’n cefnogi ac yn noddi’r tîm.
04.03.13
PWYSIG:
Ni fydd neb yn cynorthwyo disgyblion i groesi ar Heol Watling o Ddydd Mercher hyd Ddydd Gwener yr wythnos hon. Bydd yn dychwelyd Ddydd Llun, Mawrth 11eg!
02.03.13
Eisteddfod Cylch
LLONGYFARCHIADAU i’r disgyblion ar eu llwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Cylch. Cafodd yr ysgol y darian am yr ysgol uchaf ei marciau yn yr eisteddfod, a’r tlws Gelf a Chrefft. Da iawn bawb!
01.03.13
Dydd Gŵyl Dewi
Dydd Gwyl Dewi hapus i bawb!
22.02.13
Tîm pêl-droed
Llongyfarchiadau i’r tîm pêl-droed fu’n cystadlu yng Ngwyl Pêl-droed Conwy Wledig. Byddant yn mynd ymlaen yn awr i’r Sir fis Mai.
22.02.13
Eisteddfod Dawns yr Urdd
Eisteddfod Ddawns Arbennig! Diolch i bob disgybl ac i’w hyfforddwyr am eu gwaith caled ar gyfer Eisteddfod Ddawns yr Urdd. Cafwyd prynhawn llwyddiannus tu hwnt i Ysgol Bro Gwydir. Bydd pob parti yn mynd ymlaen yn awr i’r Eisteddfod Sir. Daliwch ati i ymarfer!
18.12.12
Gwisg eu hunain
Caiff y disgyblion ddod i’r ysgol yn eu gwisg eu hunain Ddydd Gwener, Rhagfyr 21ain. Bydd losin a chreision ar werth gan y Cyngor Ysgol am 10/20c.
18.12.12
Nadolig Llawen
Nadolig Llawen i holl ddisgyblion, rhieni a chyfeillion yr ysgol. Edrcyhwn ymlaen at gydweithio eto yn 2013!
18.12.12
Ffair Nadolig
Ffair Nadolig – Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi, ac i bawb a gyfrannodd neu a fu’n cynorthwyo ar y noson.
29.11.12
Disgo
Diolch i bawb fu’n cefnogi yn y Disgo. Codwyd dros £200 tuag at goffrau’r gymdeithas Rhieni ac Athrawon. Diolch i’r staff fu’n cynorthwyo ac i Miss Alwen y DJ!
28.11.12
Llwyddiant yn yr Ŵyl Fathemateg
Llongyfarchiadau i’r tîm Mathemateg a ddaeth yn bedwerydd agos iawn yn yr Ŵyl Fathemateg yn Rydal heddiw. Daliwch ati!
5.11.12
Cinio Coelcerth
Byrger Eidion mewn Bap a Sbwng afal a Saws taffi.
Sialens Ddarllen
Da iawn i bawb fu’n cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf. Llwyddodd 97o ddisgyblion i gyflawni’r sialens. Y nifer uchaf o ddisgyblion trwy Sir Conwy! Campus! - cliciwch yma
Neges Destun
Cofiwch mai’r rhif ar gyfer anfon neges destun at yr ysgol bellach yw: 01492 233020
Taith Mewn Canŵ
Llongyfarchiadau i’n llywodraethwr Mr Pyves ar gwblhau taith o amgylch Cymru mewn canŵ tuag at elusennau Clefyd Siagwr a Bad Achub Prydain. Edrychwn ymlaen at ymweliad ganddo yn fuan yn sôn am ei daith.
Clybiau ar ôl Ysgol
Rhestr o glybiau - cliciwch yma
Croeso - Medi 2012
Croeso i wefan newydd ysgol Bro Gwydir.
Blwyddyn ysgol newydd dda i bawb a chroeso arbennig i’r disgyblion meithrin newydd.






